Grŵp Trawsbleidiol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Drais yn erbyn Menywod a Phlant.
Dyddiad: 29 Ebrill 2013
Lleoliad: Tŷ Hywel. Ystafell Gynadledda 21
Yn bresennol: Jocelyn Davies AC (Cadeirydd), Julie Morgan AC, yr Athro Emma Renold (Prifysgol Caerdydd), Cathy Owens (Deryn / Grŵp Gweithredu ar Drais yn erbyn Menywod), Hannah Wharf (Cyngor Ffoaduriaid Cymru), Shahien Taj (Sefydliad Henna), Craig Lawton (Ymchwilydd i Suzi Davies AC), Bernie Bowen-Thomson (Cymru Ddiogelach), Simon Borja (Cymru Ddiogelach), Liz Newton (Ymchwilydd i Peter Black AC), Colin Palfrey (Uwch-ymchwilydd i Lindsey Whittle AC), Naomi Williams (Positif Politics), Mike Wilkinson (New Pathways), Johanna Robinson (The Survivors Trust), Mwenya Chimba (BAWSO / Grŵp Gweithredu ar Drais yn erbyn Menywod), Tina Reece (Cymorth i Fenywod), Kate Carr (NSPCC), Angharad Lewis (Swyddog Cyfathrebu i Jocelyn Davies AC), Rhayna Pritchard (Ymchwilydd i Jocelyn Davies AC), Jo Silver (CAADA).
1 Croeso
1.1 Croeso gan Cathy Owens
2 Ymddiheuriadau
Aled Roberts AC, Simon Thomas AC, Phil Walker (The Survivors Trust), Naomi Brightmore (Cymorth i Fenywod Port Talbot ac Afan).
2 Ethol Cadeirydd ac Ysgrifennydd
3.1 Cafodd Jocelyn Davies AC ei henwebu fel y Cadeirydd gan Julie Morgan AC; cytunodd y grŵp ar hyn.
4 Cyflwyniad gan yr Athro Emma Renold, Prifysgol Caerdydd: Boys and Girls Speak Out: a qualitative study of children’s gender and sexual cultures (age10-12).
4.1 Cyflwyniad ar orfodaeth a rheolaeth yn y diwylliant o gariadon ifanc. Mae'r adroddiad llawn ac argymhellion y polisi ar gael yn:
http://www.nspcc.org.uk/Inform/research/findings/boys-and-girls-speak-out_wda100425.html
4.2 Argymhellion allweddol: mae angen i addysg ar gydberthnasau iach sy'n briodol o ran oedran ac yn sensitif o ran rhyw:
· ddechrau yn yr ysgol gynradd;
· cynnwys yr ysgol gyfan;
· mynd i'r afael â'r realiti o fydoedd cymdeithasol y plant eu hunain (h.y. 'profiad agos');
· bod yn sail i fframwaith cydraddoldeb rhwng y rhywiau gyda dealltwriaeth o sut y mae safonau rhyw yn cael effaith uniongyrchol ar aflonyddwch rhywiol, gorfodaeth a rheolaeth.
4.3 Yn ystod y sesiwn holi ac ateb, gwnaed y sylwadau a ganlyn:
· Emma Renold – Yn ôl y gwaith ymchwil ansoddol, nid oedd rhai plant yn gwybod sut i ymdrin ag aflonyddwch rhywiol; mae angen i ysgolion fynd i'r afael â chydberthnasau iach yn gynnar.
· Nid oes cyfrwng a gydnabyddir mewn ysgolion lle gall plant drafod cam-drin domestig ac nid yw athrawon yn cael hyfforddiant ar y mater hwn.
· Mike Wilkinson (New Pathways) ac Emma Renold – Yn gyffredinol, mae ysgolion yn croesawu sefydliadau allanol sy'n ymdrin ag iechyd rhywiol / cam-drin domestig / cydberthnasau iach ac ati, ond nid yw pob ysgol yr un mor groesawgar. Mae hyn yn amlygu'r angen am newidiadau statudol i'r cwricwlwm ABCh.
· Shahien Taj (Sefydliad Henna) – Caiff y canfyddiadau yng ngwaith ymchwil Emma Renold eu hadleisio yn y gymuned Fwslimaidd hefyd; caiff crefydd ei ddefnyddio fel adnodd ar gyfer blacmelio a chymryd arian.
4.4 Cynigiodd Jocelyn Davies AC ysgrifennu, fel cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol, at Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, yn gofyn am gael cyflwyno gwaith ymchwil Emma Renold fel tystiolaeth. Cytunodd y Grŵp Trawsbleidiol ar hyn.
5 Dadl: Y Cwestiwn Rhywedd
5.1 Simon Borja (Cydgysylltydd y Cynllun Dyn ar gyfer Cymru Ddiogelach) – Mae Cymru Ddiogelach yn eiriolwr cryf dros ymagweddau arbenigol a chymesur a gaiff eu llywio gan ryw tuag at weithio gyda dioddefwyr cam-drin domestig a thrais rhywiol. Ni ellir ymdrin â thrais yn erbyn menywod yn yr un ffordd â thrais yn erbyn dynion, ac mae gwahaniaethau cymhleth rhwng y ddau.
5.2 Hoffai Simon Borja (Cydgysylltydd y Cynllun Dyn ar gyfer Cymru Ddiogelach) gael ei gynnwys yn y grŵp cynghori ar y Bil er mwyn mynd i'r afael â'r ddadl ar y rhywiau yn uniongyrchol.
5.3 Cytunwyd y byddai Simon Borja (Cymru Ddiogelach) a Mike Wilkinson (New Pathways) yn cysylltu â Tina Reece (Cymorth i Fenywod Cymru) gyda'r wybodaeth a gasglwyd ganddynt am y cwestiwn rhywedd.
6 Unrhyw fater arall
6.1 Bydd Rhayna Pritchard (ymchwilydd i Jocelyn Davies AC) yn:
· rhannu'r gwaith ymchwil gan Cymru Ddiogelach, Cymorth i Fenywod a New Pathways gyda rhestr ddosbarthu'r Grŵp Trawsbleidiol pan fo'n briodol;
· gofyn i'r papurau ymchwil gan y Cynllun Dyn, New Pathways a Chymorth i Fenywod, ar ôl eu trafod gyda Tina Reece, gael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.
7 Dyddiad y cyfarfod nesaf
7.1 Cytunwyd y dylid cynnal y cyfarfod nesaf cyn gynted â phosibl ar ôl 9 Mehefin 2014.
CLOI